Marc Griffiths

Marc Griffiths

Marc Griffiths a'r cynnwys perffaith ar gyfer nos Sadwrn.

Cafodd Marc ei eni mewn pentref bach o'r enw Llanybydder wrth ymyl Llambed yn y flwyddyn 1979. Aeth i Ysgol Dyffryn Teifi yn Llandysul, ble fuodd am bum mlynedd.

Cyn iddo ddechrau cyflwyno ar BBC Radio Cymru, yn syth ar ôl gadael dosbarth pump, cafodd swydd llawn amser yn Theatr Felinfach fel technegydd, ac yn y fan honno cafodd gyfle i gyflwyno, recordio a golygu rhaglenni i Radio Ceredigion.

Mae Marc hefyd wedi bod yn actio mewn ambell i gyfres deledu: Tafarn y Gŵr Drwg, Tair Chwaer, Y Glas, Marinogion, Llafur Cariad a rhannau ychwanegol mewn ambell i ffilm Gymraeg.

Am gyfnod o wyth mlynedd fuodd yn aelod o gwmni actorion Theatr Felinfach ac yn perfformio yn y pantomeim enwog!

"Fe allai ddweud heb os nac oni bai, gweithio ym myd radio sy'n nes at yng nghalon."


Amserlen

Ar yr awyr nawr

09:03 Richard Rees

Kevin Davies yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.