Ganwyd Eifion Jones yn Nhregarth, ger Bangor.
Wedi gadael ysgol, fe ddechreuodd deithio o amgylch fel DJ gyda'i set o recordiau, ac yn ystod y cyfnod hwn fe wnaeth gynnal gigs mewn amryw o lefydd, yn cynnwys clybiau a gwersylloedd gwyliau.
Yn 1980, ymunodd â CBC (sydd nawr yn Red Dragon FM), ac yna symudodd i Radio Cymru yn 1995.
Mae Jonsi bellach yn cyflwyno ei raglen bob prynhawn o 2 tan 5, ac yn parhau i fwynhau bob eiliad.
"Dwi'n dal i fwynhau fy ngwaith cyflwyno ac rwyf yn medru cwrdd â nifer o bobl o bob cwr o Gymru tra'n cael hwyl ar yr un pryd."


