Hywel Gwynfryn

Hywel Gwynfryn

Mae Hywel Gwynfryn yn darlledu'n fyw yn eich bro chi gyda Radio Cymru - Fan Hyn! Mae ganddo hefyd ei raglen ei hun ar foreau Sul.

Dechreuodd Hywel Gwynfryn ei yrfa ddarlledu yn 1964 yn cyflwyno Heddiw, rhaglen ddyddiol ar y teledu.

Yn 1968, gwnaeth Hywel gyflwyno'r rhaglen bop Cymraeg gyntaf erioed, Helo Sut Da Chi? Gan nad oedd unrhyw recordiau Cymreig ar y pryd, efe oedd un o'r arloeswyr yn y diwydiant recordiau pop Cymreig, wrth i grwpiau ddechrau creu, ac wrth i'r ddiwydiant dyfu.

Pan welwyd lansiad Radio Cymru, VHF yn 1977, ei rhaglen gyntaf oedd Helo Bobol, wedi ei chyflwyno gan Hywel.

Yn ogystal â Helo Bobol, fe gyflwynodd ei raglen sgwrsio ar y teledu Rhaglen Hywel Gwynfryn.

Yn ystod ei amser hamdden, fe ysgrifennodd bedwar pantomeim, yn cynnwys Jiw Jiw Jeifin Jenkins, yn ogystal â ffilm ar gyfer S4C.

Bellach mae llais y cawr o Fôn i'w glywed yn cyfrannu i amrywiol raglenni trwy gydol y dydd. Bydd Hywel yn ymweld âg ardaloedd gwahanol ac yn dod â'r holl gyffro a'r hwyl o ddigwyddiadau ac achlysuron yn fyw i weddill gwrandawyr Radio Cymru. Dyw teithio ddim yn beth newydd i Hywel serch hynny. "Pan nes i gychwyn fel darlledwr ar deledu nôl ym 1964, roeddwn i'n mynd ar leoliad i ffilmio o amgylch Cymru a thu hwnt felly mae'r cylch wedi troi'n llawn," esbonia'r newyddiadurwr profiadol. "Dwi wrth fy modd yn cyfarfod pobl, ar eu tomen eu hunain, ac fe fydd hi'n grêt gallu dŵad a sŵn Cymry'n siarad am Gymru i mewn i'r gwahanol raglenni."


Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Rhys Meirion

Rhys Meirion fydd yn diddanu ar fore Sul gyda chaneuon clasurol gan gynnwys ei ffefrynnau personol a'i hoff artisitiaid.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Teithiau Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Dewch am dro

Dilynwch ein cyfarwyddiadau a mwynhewch grwydo rhai o drefi Cymru.

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.