Gellir gwrando ar Gerallt Pennant yn ystod ei raglen am gefn gwlad Cymru, Galwad Cynnar, ar fore Sadwrn.
Cerdded mynyddoedd, sgio, a garddio yw diddordebau mawr Gerallt.
Ar ol blynyddoedd o deithio led-led y wlad yn sgil ei waith fel cyflwynydd radio a theledu, mae ei wybodaeth o ddaearyddiaeth Cymru yn ddiarhebol.
A diarhebol hefyd, os nad gwyddionadurol, yw ei adnabyddiaeth o blanhigion gwyllt a'u henwau.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Rhys Meirion
Rhys Meirion fydd yn diddanu ar fore Sul gyda chaneuon clasurol gan gynnwys ei ffefrynnau personol a'i hoff artisitiaid.
