Cafodd Gary ei eni ym Mangor er bod y teulu yn byw ar y pryd yn Lerpwl.
Ond byth ers hynny mae pob rheolwr Cymru wedi anwybyddu aberth ei rieni ddaeth yr holl ffordd i Fangor i sicrhau ei fod yn gymwys i wisgo'r crys coch.
Cafodd Gary ei addysg yn Ysgol Gymraeg Morswyn, Caergybi ac Ysgol Uwchradd Bodedern yn Sîr Fôn, ac wrth gapteinio tîm bechgyn hynaf Ysgol Bodedern cafodd hunllef gyntaf ei yrfa pêl-droed.
Gyda'r ysgol angen gêm gyfartal yn unig yn erbyn yr hen elyn, Ysgol Caergybi, i gipio Cynghrair Ysgolion Môn sgoriodd Gary ddwy gôl - yn ei rwyd ei hun, wrth i Bodedern golli 2-1.
Roedd hyn yn ddiwedd ar yrfa chwarae Gary, wrth iddo benderfynu chwysu a checru ar y teras yn hytrach na chwysu a chicio ar y cae.
Mae Gary yn gefnogwr brwd o glwb Wrecsam a Chymru, ac o'r herwydd mae'n credu iddo fod yn arbenigwr ar siom a thorcalon.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
11:02 Hywel Gwynfryn
Cyfarchion, hysbys a cherddoriaeth hamddenol yng nghwmni difyr Hywel Gwynfryn.


