Wedi ei eni a'i fagu ym Mhontarddulais, a heb symud yn bell iawn oddi yno, gan ei fod nawr yn byw yn yr Hendy, sydd ond ochr draw y bont i afon Llwchwr!
Fe aeth i ysgol y pentre, wedyn Ysgol Gyfun Ystalyfera, cyn astudio'r Gyfraith yn mhrifysgol Aberystwyth.
Yna, symudodd 'nôl i Lanelli i weithio gyda chwmni cyfreithwyr, ond chafodd fawr o hwyl ar y gwaith hynny yw ar wahân i gwrdd â'i wraig yno!
Ar ôl gweithio yn radio Sain Abertawe am tua wyth mlynedd yn cyflwyno opera, roc ceisiadau a newyddion, ymunodd Garry â Radio Cymru fel gohebydd yn Abertawe.
Mae Garry eisioes wedi bod yn cyflwyno Newyddion BBC ar gyfer S4C a Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru.
Holi Garry Owen
Petai ti'n anweledig am y diwrnod, beth fyddai'r peth cynta' i ti wneud?
Mynd i'r gampfa.
Beth sy'n gwneud i ti ymlacio?
Dim.
Pa atgof sy'n gwneud i ti gochi fwyaf?
Sôn wrth fenyw mewn parti ar ôl cyngerdd lleol bod soprano y cyngerdd eleni yn dipyn gwell nag un llynedd, a hithe yn ateb (gan chwerthin, diolch i'r drefn) mai hi oedd soprano y cyngerdd llynedd!
Pa raglen deledu wyt ti'n mwynhau fwyaf ar hyn o bryd?
Y gemau Olympaidd.
Pa raglen sy'n gwneud i ti ddiffodd y teledu?
Y tywydd; mae'r haf eleni mor ddiflas, mae'n well 'da fi beidio gwybod bod mwy o law ar y gorwel!
Petai ti'n cael newid un peth am dy hun - beth fyddai hynny?
Bydde cof da yn help!
Oes gen ti lysenw?
Dim hyd y gwn i.
Pe na byddet ti'n gyflwynydd radio, beth fyddai dy swydd ddelfrydol?
Gweithio i elusen.
Beth oedd dy hoff losin pan yn blentyn?
Y losin taffi a chnau y byddwn i yn eu dwyn o'r drôr yn sideboard mam-gu.
Pwy sydd yn dy ysbrydoli di?
Pobol ar hyd a lled y byd sydd yn gweithio yn ddi-dâl, ac yn aml yn ddiddiolch yn eu cymunedau.
Pa eitem yn dy gwpwrdd dillad sy'n codi'r cywilydd mwyaf arnat ti?
Jeans Levi sy' gyda fi o ddyddie coleg. Y cywilydd yw bod nhw rhy fach i fi nawr!
Beth yw dy leoliad picnic delfrydol?
Ar lan llyn Garda.
Petai ti'n ennill y loteri - beth fyddai'r peth cyntaf i ti wneud?
Erioed wedi prynu tocyn.
Pwy fydde ti'n hoffi gweld yn dy actio di mewn ffilm am dy fywyd?
Dafydd Hywel.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Rhys Meirion
Rhys Meirion fydd yn diddanu ar fore Sul gyda chaneuon clasurol gan gynnwys ei ffefrynnau personol a'i hoff artisitiaid.
