Dechreuodd Eleri ym myd teledu fel cantores ac ar raglenni plant. Fe gymerodd hi ddwy flynedd o hoe yn ystod y cyfnod astudio ar gyfer ei gradd yn y Gymraeg ym mhrifysgol Caerdydd i gyflwyno rhaglen chwaraeon i blant o'r enw Cracabant.
Yna ym 1995 fe ymunodd â chriw Chwaraeon BBC Radio Cymru er mwyn gohebu ar gemau rygbi (y ferch gyntaf i ohebu ar rygbi yn y Gymraeg yn ôl y sôn).
Hyn ar ôl hongian ei sgidiau rygbi yn dilyn anafiadau tra'n chware'r gêm dros glwb rygbi Llanbedr Pont Steffan a phrifysgol Caerdydd lle fuodd hi'n gapten am flwyddyn.
Ar ôl gadael y brifysgol fe aeth hi ymlaen i weithio fel is-gynhyrchydd gyda chwmni teledu Apollo gan weithio ar raglenni fel Noc Noc, Cân i Gymru, a Dudley, ond fe ail ddychwelodd y chwant o weithio ym myd chwaraeon ac ym 1997 fe ymunodd â thîm Y Clwb Rygbi fel is-gynhyrchydd a chyflwynydd.
Yn ystod y cyfnod hynny fe gyflwynodd Cyfres Saith bob Ochr Rygbi y Byd, Gemau'r Gwyddel, Pencampwriaeth pêl-rwyd y byd, Pencampwriaeth roller-hockey y byd - hyn cyn cael y cyfle i gyd-gyflwyno Camp Lawn gyda Dylan Ebeneser.
Bellach mae i'w chlywed bob bore ar Radio Cymru am 8.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda Dafydd Du.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
17:03 Newyddion y Flwyddyn 2009
Cyfle i edrych yn ôl ar brif straeon newyddion y flwyddyn ar Radio Cymru yng nghwmni Alun Thomas.


