Cafodd Dylan Jones ei eni a'i fagu ym mhentref Capel Garmon ger Llanrwst yn Nyffryn Conwy.
Ar ôl graddio mewn gwleidyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth bu'n dysgu Hanes a Gwleidyddiaeth yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, ac yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.
Ym 1990 ymunodd ag Adran Newyddion y BBC fel gohebydd radio a theledu yng Nghlwyd.
Ers hynny yn ogystal â gohebu ar storïau yn y gogledd, bu'n gohebu ar storiâu fel llofruddiaeth James Bulger yn Lerpwl, cyflafan Dunblane, trafferthion Gogledd Iwerddon, marwolaeth Diana ym Mharis, yr helynt tanwydd yn Stanlow, a helyntion Pacistan yn sgil ymosodiadau 11 Medi.
Enillodd wobr Darlledwr Newyddion y Flwyddyn BT yn 1997 a Chanmoliaeth Uchel yn yr un gystadleuaeth yn 2001.
Ar wahanol adegau bu'n cyflwyno'r Newyddion ar S4C, Taro Naw, Pawb a'i Farn, Y Post Cyntaf, Y Post Prynhawn a Stondin Sulwyn.
Ers pymtheg mlynedd mae o wedi cyflwyno'r rhaglen bêl-droed boblogaidd Ar Y Marc bob bore Sadwrn. Heddiw mae Dylan yn cyflwyno'r rhaglen Taro'r Post a'r Clwb Pêldroed ar S4C.


