Advertisement

Dylan Ebenezer

Dylan Ebenezer

Cyd-gyflwynydd rhaglen Camp Lawn gydag Eleri Siôn bob dydd Sadwrn ar Radio Cymru.

Cafodd Dylan ei eni a'i fagu yn Aberystwyth, ac fe fynychodd Ysgol Gymraeg y dref cyn symud ymlaen i Ysgol Penweddig.

Buodd yn cyfrannu at Radio Ceredigion am gyfnod cyn gadael Aber er mwyn mynd i'r Brifysgol yng Nghaerdydd. Roedd ei gyfnod yn y coleg ddim yn un llewyrchus i ddweud y lleiaf a gadawodd ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf gan ddechrau gweithio i gwmnïau teledu annibynnol yn y brifddinas.

Buodd yn gweithio fel cynorthwy-ydd cynhyrchu gyda nifer o gwmnïau ar nifer o gyfresi drama am bedair blynedd - gan fwynhau'r profiad a'r amrywiaeth yn enfawr.

Cafodd swydd gydag adran chwaraeon y BBC ym 1997 yn darllen bwletinau chwaraeon ar Radio Cymru.

Ar ôl cyfnod yn cyflwyno'r rhaglen bêl-droed Gol! ar S4C, mae Dylan bellach yn cyd-gyflwynor Gamp Lawn gyda Eleri Siôn bob dydd Sadwrn ar Radio Cymru gan hefyd gyflwyno'r bwletinau a chyfrannu i C2 yn ystod yr wythnos.

"Byddaf hefyd yn heidio i Highbury yn aml er mwyn canolbwyntio ar fy nghariad cyntaf - clwb pêl-droed Arsenal!" meddai.


Amserlen

Ar yr awyr nawr

19:28 Marc Griffiths

Cymysgedd o'r hen ffefrynnau a'r gerddoriaeth ddiweddara ar nos Sadwrn gyda Marc Griffiths - mae'n siwr o blesio.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.