Mae Dafydd Meredydd yn dod yn wreiddiol o Benisarwaen.
Mi wnaeth fentro i'r brifysgol yn Aberystwyth i astudio Ffiseg y Planedau a'r Gofod! Yna, tua 10 mlynedd yn ôl, symudodd i Gaerdydd a chafodd y cyfle i gyflwyno rhaglen wyddoniaeth i blant o'r enw Pantecnicon ar S4C.
Wedi hyn, daeth cyfleoedd i gyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru fel Gwell Hwyr Na Hwyrach, Tonfedd, Paid a Bod Ofn, Ram Jam a Ram Jam Sadwrn, yn ogystal â sawl sioe allanol fawr a rhaglenni o wledydd tramor megis Awstralia a Phatagonia.
Am bedair blynedd a hanner fe wnaeth ddarlledu ei sioe ei hun bob pnawn rhwng 3 a 5 ar y gwasanaeth cenedlaethol cyn ymuno â thîm C2, ac er daeth galwadau i ddychwelyd i fyd teledu i gyflwyno Cân i Gymru, Y Cnapan, Camp am Ganu, Blwyddyn Newydd Dda a Delweddau'r Dyfodol, mae'n rhaid dweud mai radio yw ei gariad cyntaf.
Holi Dafydd Du
Beth oedd y ffilm ddiwethaf i ti weld mewn sinema?
Horton Hears a Who efo Megs fy merch 5 oed.
Beth oedd y tecst diweddaf i ti dderbyn?
Peint Romilly rwan???
Petai ti'n anweledig am y diwrnod, beth fyddai'r peth cynta' i ti wneud?
Cerdded ymlaen i lwyfan Stadiwm y Mileniwm tra fod Bruce Springsteen yn perfformio yno ar yr 16eg o Fehefin eleni.
Beth sy'n gwneud i ti ymlacio?
Rhedeg.
Pa atgof sy'n gwneud i ti gochi fwyaf?
Unrhyw atgof o ganu yn gyhoeddus.
Pa raglen deledu wyt ti'n mwynhau fwyaf ar hyn o bryd?
Gavin & Stacey.
Pa raglen sy'n gwneud i ti ddiffodd y teledu?
Unrhyw raglen realaeth - yn enwedig os ydi Jordan neu Kerry Katona ynddy nhw. Yn anffodus ma'r wraig yn caru'r rhaglenni yma.
Petai ti'n cael newid un peth am dy hun - beth fyddai hynny?
Llai blewog.
Oes gen ti lysenw?
Daf Du wrth gwrs - ers dyddiau ysgol.
Pe na byddet ti'n gyflwynydd radio, beth fyddai dy swydd ddelfrydol?
Pêl-droediwr i Everton.
Beth oedd dy hoff losin pan yn blentyn?
Pear drops a cola cubes.
Pwy sydd yn dy ysbrydoli di?
Fy nheulu.
Pa eitem yn dy gwpwrdd dillad sy'n codi'r cywilydd mwyaf arnat ti?
Mi oedd gen i drowsus lledr oedd yn debycach i 'waders'!
Beth yw dy leoliad picnic delfrydol?
Caeau Pontcanna, sydd dafliad carreg o'r tŷ.
Petai ti'n ennill y loteri - beth fyddai'r peth cyntaf i ti wneud?
Prynu castell efo pwll nofio.
Pwy fydde ti'n hoffi gweld yn dy actio di mewn ffilm am dy fywyd?
David Schwimmer sy'n chwarae Ross yn Friends. Mae yna debygrwydd yn ôl rhai!


