Holi Brychan Llŷr
Petai ti'n anweledig am y diwrnod, beth fyddai'r peth cynta' i ti wneud?
Licen i'r llonydd i gael gwrando ar y radio.
Beth sy'n gwneud i ti ymlacio?
Paratoi a byta bwyd da.
Pa atgof sy'n gwneud i ti gochi fwyaf?
Mynd am dro 'da ngwraig i Siân, a chyfarfod cwpl o bobl o'n i'n nabod, ond nes i eu cyflwyno nhw i Siân gan ddefnyddio enwau eu rhieni nhw..sydd wedi marw!
Pa raglen deledu wyt ti'n mwynhau fwyaf ar hyn o bryd?
Fi'n dal i chwerthin ar Father Ted er bo fi 'di gweld nhw gyd o'r blaen - mae'n ticlo fi'n biws!
Pa raglen sy'n gwneud i ti ddiffodd y teledu?
Lot o bethe - operâu sebon yn arbennig.
Petai ti'n cael newid un peth am dy hun - beth fyddai hynny?
Licen i fod yn fwy trefnus.
Oes gen ti lysenw?
Brych.
Pe na fyddet ti'n gyflwynydd radio, beth fyddai dy swydd ddelfrydol?
Ffariar.
Beth oedd dy hoff losin pan yn blentyn?
Space dust.
Pwy sydd yn dy ysbrydoli di?
Jake Thackeray - canwr/gyfansoddwr yng ngwir ffasiwn y trwbadwr. Nick Drake hefyd.
Pa eitem yn dy gwpwrdd dillad sy'n codi'r cywilydd mwyaf arnat ti?
Ma' 'da fi siaced mewn patrwm du a gwyn, ac on i'n dwli arni, ond goffes i ei chadw hi yng nghefen y cwpwrdd am flynydde am fod 'da Gary Glitter un yr un fath.
Beth yw dy leoliad picnic delfrydol?
Traeth Tresaith.
Petai ti'n ennill y loteri - beth fyddai'r peth cyntaf i ti wneud?
Talu rhywun i lanhau ffenestri'r tŷ.
Pwy fydde ti'n hoffi gweld yn dy actio di mewn ffilm am dy fywyd?
Marty Feldman.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
18:45 Y Rhyfel Oer
40 mlynedd ers glanio ar y lleuad, Ifor ap Glyn sy'n edrych nôl ar y ras i'r gofod a'i dylanwad ar fywyd pob dydd yng Nghymru a thramor.


