Mae Beti yn cyflwyno Beti a'i Phobol
Ganwyd Beti yn Coedybryn, ac fe dderbyniodd ei haddysg yn Ngholeg y Brifysgol Caerdydd ac Aberystwyth. Am gyfnod fe fuodd yn byw yn Aberhonddu (dysgu yn ysgolion gramadeg y Merched a'r Bechgyn am 18 mis), cyn symud i Abertawe. Yno cafodd swydd gyda'r BBC fel gohebydd i raglen Bore Da oedd yn cael ei chyflwyno gan T. Glynne Davies a geisiodd ddysgu iddi'r grefft o ddarlledu ac a'i hysbrydolodd.
Yn ogystal â chyflwyno Newyddion ar S4C gyda Gwyn Llewelyn, fe gyflwynodd gyfresi o raglenni cerdd.
Bellach, mae Beti yn cyflwyno Beti a'i Phobol. "Mae'r gyfres wedi fy nghynnal ar hyd yr amser - yn ariannol ac yn ysbrydol! Mae hi mor braf i fynd o dan y wyneb wrth gael sgwrs a gwestai. Ond fe allwn i wneud ag awr o raglen yn hawdd!" meddai.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
08:31 Dewi Llwyd ar Fore Sul
Dewi Llwyd ar fore Sul, yn mynd drwy'r papurau, yn sgwrsio gyda'i westeion arbennig ac yn chwarae amrywiaeth o gerddoriaeth.
