Advertisement

Alun Roberts

Alun Roberts

Gellir gwrando ar John ac Alun yn cyflwyno eu rhaglen wythnosol bob nos Sul ar BBC Radio Cymru.

Holi Alun Roberts

Beth sy'n gwneud i ti ymlacio?
Glasiad (neu ddau, neu hyd yn oed dri) o 'Malt' da.

Pa atgof sy'n gwneud i ti gochi fwyaf?
Dod 'rownd' ar ôl llawdriniaeth yn sefyll yn noethlymun ar ben y gwely'n bytheirio pawb o'm cwmpas - dwi ddim yn cofio gwneud hynny fy hun ond mi roedd yna dystion yn anffodus.

Pa raglen deledu wyt ti'n mwynhau fwyaf ar hyn o bryd?
The Apprentice - sydd newydd ddod i ben yn anffodus.

Pa raglen sy'n gwneud i ti ddiffodd y teledu?
Unrhyw un o'r rhai ar linellau X Factor.

Petai ti'n cael newid un peth am dy hun - beth fyddai hynny?
Bod yn 20 oed eto.

Oes gen ti lysenw?
Robaits a Pôst.

Pe na byddet ti'n gyflwynydd radio, beth fyddai dy swydd ddelfrydol?
Bod yn 'styntman' i Jonsi yn y ffilm am fy mywyd.

Beth oedd dy hoff losin pan yn blentyn?
'Sherbet Fountain'.

Pwy sydd yn dy ysbrydoli di?
Mae'n newid o ddydd i ddydd yn dibynnu ar beth dwi'n ei wneud a sut dwi'n teimlo ar y pryd.

Pa eitem yn dy gwpwrdd dillad sy'n codi'r cywilydd mwyaf arnat ti?
Siwt wen a brynais yn y 'sales' flynyddoedd yn ôl - ac erioed wedi cael yr hyder i'w gwisgo - ond mae'n dal yno am ryw reswm.

Beth yw dy leoliad picnic delfrydol?
Ar ben Garnfadryn neu Ynys Enlli ar ddiwrnod braf o haf.

Petai ti'n ennill y loteri - beth fyddai'r peth cyntaf i ti wneud?
Nôl y siec.

Pwy fydde ti'n hoffi gweld yn dy actio di mewn ffilm am dy fywyd?
Jonsi.


Amserlen

Ar yr awyr nawr

18:03 Stiwdio

Rhaglen i nodi penblwydd Canolfan y Mileniwm yn 5 oed.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.