Rysait cacennau siocled a mintys

Rysait cacennau siocled a mintys

Gan Wendy Thomas o Galeri Caernarfon

08 Gorffennaf 2011

Cynhwysion

2 owns o farjarîn (ar dymheredd stafell)
6 owns o siwgr
Diferyn o rin fanila (Vanilla extract)
Wy
6 owns o flawd codi
500ml llaeth enwyn
2 lwy de o bowdwr coco
Llond llwy de o soda pobi
Bar cyfan o Aero blas mint, wedi'i gratio
Paced o beli Aero blas mint

Dull

1. Cynheswch y popty i 180gradd/350F/Nwy 4
2. Cymysgwch y menyn a'r siwgr â llwy bren
3. Ychwanegwch y fanila a'r wy a'i gymysgu eto tan fydd yn llyfn
4. Ychwanegwch hanner y blawd ar y tro trwy ridyll, yna hanner y llaeth enwyn a chymysgu'r cyfan
5. Ychwanegwch hanner arall y blawd a'r llaeth enwyn, y coco a chymysgu'r cyfan
6. Mewn bowlen ar wahan, cymysgwch y finegr a'r bicarb tan fydd e'n ffisian, yna'i ychwanegu at y gymysgedd, ychwanegwch y siocled wedi'i gratio a chymysgu'r cyfan yn ysgafn
7. Defnyddiwch lwyau te i roi'r gymysgedd i mewn i gasys papur, gan lenwi at tua'r hanner, yna rhowch ddwy belen Aero mewn, ac yna llenwi'r casys â mwy o'r gymysgedd
8. Pobwch am tua 15-20 munud. Mi fydd y cacennau'n barod pan ddaw sgiwer allan o'r canennau'n lân. Ar ôl i'r cacennau oeri, rhowch ychydig mwy o'r Aero wedi'i gratio ar ben bob cacen.

Tips coginio Blas

Os ydych eisiau cadw grawnwin am fwy na phythefnos, cadwch nhw mewn powlen llawn sudd oren

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.