Dyma dinctir naturiol sy'n dda at normaleiddio pwysau gwaed.
Cynhwysion
Rhyw 30 o aeron coch meddal o goeden y Ddraenen Wen.
Hanner peint o frandi.
Y Paratoi
1. Pigo'r aeron a'u rhoi mewn jar sydd wedi ei sterileiddio.
2. Ychwanegu'r brandi.
3. Cau y caead yn dynn. Ysgwyd y jar bob dydd am rhyw bythefnos, ac mae'r tinctir yn barod.
4. Ei hidlo cyn ei roi mewn potel fechan. Bydd lliw y tinctir yn goch a'r hylif yn dew fel gwaed.
5. Ychydig o ddiferion mewn dwr neu ar y tafod yn ddyddiol.


