Cynhwysion
- Llond cwpan o ddail poethion wedi eu torri'n fan, (cofwich ddefnyddio menyg wrth gasglu'r dail a'u torri)
- 2 wy
- 2 lwy fwrdd o hufen dwbwl
- Halen a phupur du
- 1 llwy de go fawr o olew neu fenyn
Dull
Rhowch yr olew neu'r menyn mewn padell ffrio a ffrio'r dail poethion gan eu troi'n gyson gyda llwy bren.
Torrwch ddau wy a'u curo hefo'r hufen dwbwl.
Ychwanegwch at y dail poethion gan roi mymryn o halen a phupur ar gyfer y blas.
Pan mae'r omlet bron yn barod rhowch y badell o dan y gril er mwyn i'r omlet chwyddo.
Tips coginio Blas
I gael gwared o oglau pysgod, rhwbiwch eich dwylo efo halen a sudd lemwn


