Advertisement

Escabeche macrell

escabeche macrell

04 Medi 2009

O Sbaen y daw'r enw Escabeche. Mae'r rysàit yn cyfeirio at bysgod yn benna, sy'n cael eu mwydo a'u coginio mewn picl, a'u gweini'n oer.

Cynhwysion

  • 4 macrell ffresh, wedi eu glanhau a'i torri'n ffiledi.
  • 1 nionyn (winwnsyn) coch wedi'u plicio a'u sleisio
  • 1 cennin wedi ei sleisio
  • 1 fennel wedi ei dorri
  • 1 moron wedi ei sleisio
  • 1 clof o garlic wedi ei sleisio
  • sprigyn o teim
  • 2 ddeilen bay
  • 100ml gwin gwyn
  • 100 ml sudd afal
  • 100 ml finegr
  • halen a phupur

Dull

Twymo'r llysiau yn yr hylif, dod a'r cyfan i'r berw, rhoi'r ffiledi mecryll yn y stoc poeth ac yna ei roi yn y rhewgell. Mae'r stoc yn coginio'r mecryll a'r picl yn piclo'r cyfan.

Ei adael dros nos. Gellir ei fwyta drannoeth neu o fewn y mis.

Ei weini gyda salad ysgafn a thafell o fara ffresh.

Tips coginio Blas

I goginio eich reis yn berffaith, defnyddiwch ddwywaith gymaint o ddŵr ag o reis

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno cymysgedd o'r gerddoriaeth orau ac yn trafod pynciau'r dydd.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.