Advertisement

Pizza - Rysàit Kate O'Sullivan o Aberystwyth

Saws Tomato

Olew olewydd
2-3 winwsyn wedi'u torri'n fan
3 clof garlleg
2 dun o domatos
½ - 1 llwy de o oregano sych
½ - 1 llwy de o basil sych
½ - 1 llwy de o siwgr


Toes

300g o flawd plaen cryf (cymysgedd o flawd gwyn a blawd cyflawn)
1 llwy de o halen
1 llwy fwrdd o olew olewydd
1 llwy de o furum sych (fast-action)
1 llwy de o siwgr
1 llwy fwrdd o bowdwr llaeth
210 ml o ddŵr


Cynhwysion eraill

200g o gaws cheddar wedi'i gratio
Selsig chorizo ffres (dewisol)


Paratoi'r Saws Tomato

Twymwch 2-3 llwy fwrdd o olew olewydd mewn padell a ffriwch y winwns ar wres isel am o leiaf hanner awr.
Ychwanegwch 3 clof o garlleg wedi'u malu'n fan; dau dun o domatos; ½ - 1 llwy de o oregano, basil a siwgr.
Gadewch y cyfan i fud-ferwi am hyd at awr, nes ei fod yn drwchus.
Os yn defnyddio chorizo, torrwch y selsig yn ddarnau bach a'u ffrio am 2-3 munud, gan ddraenio'r olew ar ôl ffrio.

Paratoi'r Toes

Ar gyfer peiriant bara, rhowch y cynhwysion sych ym mhowlen y peiriant ac ymchwanegwch y dŵr
.
Rhowch y cwbl yn y peiriant a dilynwch cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer toes pizza.

Er mwyn gwneud y toes â llaw, cymysgwch y cynhwysion sych mewn powlen fawr.
Gwnewch dwll yng nghanol y cynhwysion sych ac ychwanegwch yr olew olewydd ynghyd â 250 ml o ddŵr cynnes (ond nid poeth).
Cymysgwch y cynhwysion nes eu bod yn ffurfio pelen ac yna tylinwch y toes ar fwrdd glan am 5-10 munud nes ei fod yn sgleinio ac yn elastig o ran ei deimlad.
Rhowch y toes mewn powlen, ei orchuddio â darn o haenen glynu wedi'i iro ag olew olewydd a'i adael i godi mewn man cynnes (e.e. cwpbwrdd crasu).
Pan fydd wedi codi, tynnwch y toes o'r powlen, ei rannu'n ddwy a'i rolio yn ddau gylch rhyw 20-25cm (tua 9 modfedd) o led ar gyfer gwneud dau bizza.

Gosodwch y toes wedi'i rolio ar garreg pizza neu ar hambwrdd pobi wedi'i iro ag ychydig o olew olewydd.
Defnyddiwch gyllell i farcio cylch tua 2cm (½ modfedd) o'r ymyl i greu crwst ond peidiwch torri trwy'r toes yn gyfangwbl.

Coginio'r Pizza

Taenwch y saws tomato yn eitha trwchus ar ben y toes, gan gadw oddi mewn i'r cylch sydd wedi'i farcio 2cm o'r ymyl.
Rhowch y caws wedi'i gratio ar ben y saws ac os yn eu defnyddio, gosodwch y darnau o chorizo wedi'u ffrio ar ben y pizza (mae chorizo yn gallu bod yn eithaf poeth oherwydd y chiles).
Coginiwch y ddau bizza mewn ffwrn ar wres o 200 gradd Celsius (nwy 7) am 15 munud. Torrwch y pizza yn dafellau a'i weini'n gynnes gyda salad ar yr ochr.

Tips coginio Blas

Os oes gennych ddarn o gaws sydd wedi sychu'n grimp, rhowch e mewn powlen o laeth enwyn am hanner awr ac mi fydd yn iawn eto

Amserlen

Ar yr awyr nawr

20:02 C2: Magi a Glyn

Ar ôl misoedd o baratoi - cyfle i glywed Glyn Wise yn cymryd rhan mewn noson gomedi.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.