Coq au vin
Cynhwysion
(Ar gyfer 4 o bobl)
150g o facwn neu pancetta wedi'i dorri'n ddarnau mân
8 darn o gyw iâr
2 winwnsyn wedi'u torri'n fân
3 clof o garlleg wedi'u torri'n fân
Hanner llond llaw o ddail teim ffres
2-3 deilen Bay
Hanner potel o win coh
200g o fadarch bach
200g o shallots
25g o fenyn
Halen a phupur du
Dull coginio
Rhowch 2-3 llwy fwrdd o olew olewydd mewn padell casserole a'i dwymo ar yr hob, yna ffrïwch y darnau bach o facwn am ryw 5 munud nes yn frown. Rhowch y bacwn ar blât i'r naill ochr ond cadwch yr olew yn y badell.
Rhowch halen a phupur ar y darnau o gyw iâr i roi blas. Yna ffrïwch y cyw yn y badell nes bod y croen yn frown. Gosodwch y cyw ar blât i'r naill ochr, gan adael yr olew yn y badell.
Rhowch y winws wedi'u torri'n fân yn y badell. Ffrïwch y winwns ar wres cymharol isel am ryw 10 munud nes eu bod yn feddal ac yn dryloyw. Ychwanegwch dair clof o garlleg a'u ffrïo am 5 munud arall.
Rhowch y darnau o gyw iâr a'r bacwn yn ôl yn y badell gyda'r winwns a garlleg, a chymysgwch llond llwy fwrdd o flawd plaen i mewn.
Tolltwch hanner potel o win coch ar ben y cynhwysion. Os nad yw'r hylif yn gorchuddio'r cig i gyd, rhowch ychydig o ddwr ar ei ben. Ychwanegwch hanner llond llaw o ddail teim ffres wedi'u torri'n fân ynghyd â 2-3 deilen Bay.
Dewch â'r cyfan at y berw yna trowch y gwres lawr yn isel a gadael y cyfan i goginio'n araf ar yr hob am ryw awr, gyda chaead ar ei ben.
Tra bod y cyw yn coginio, ffrïwch y madarch a'r shallots mewn ychydig o fenyn am ryw 5-10 munud nes eu bod yn frown. Ar ôl i'r coq au vin fod yn coginio am ryw awr, ychwanegwch y madarch bach a'r shallots. Coginiwch y cyfan am hanner awr arall.
Gweinwch y coq au vin gyda thatws newydd neu reis, a salad gwyrdd. Mae bara Ffrengig yn ffordd dda o godi'r saws a glanhau'r plât!
Tips coginio Blas
Mae cig sydd wedi ei coginio ar yr asgwrn yn blasu'n well mewn cyri


