Coes o Gig Oen ar y Barbeciw
Cynhwysion
Hanner coes o gig oen
Halen a phupur du
Rhosmari ffres
5 clof o garlleg wedi'u torri'n dafellau
Olew Olewydd
Ffoil
Barbeciw tegell (gyda chaead)
Dull coginio
Paratowch y barbeciw ar gyfer y cig, gan roi un pentwr o glolosg ar un ochr a phentwr arall o glolosg ar yr ochr arall. Gadwch sianel o ryw 40-50cm rhwng y ddau bentwr o glolosg . Cynheuwch y glolosg ac aroswch nes ei fod yn troi'n wyn cyn ychwanegu'r cig.
Irwch y cig oen gydag olew olewydd. Torrwch gyfres o dyllau bach yn y cnawd a rhowch ychydig o rhosmari a sleisen o glof garlleg ymhob twll. Rhowch halen a phupur du ar y cig i roi blas.
Defnyddiwch y ffoil i greu basin hirsgwar (drip tray) a gosodwch hwn yn ofalus rhwng y ddau bentwr o glolosg, gan ddefnyddio tongs a gofalwch rhag llosgi.
Gosodwch gril y barbeciw uwchlaw'r glolosg a rhowch y goes parod o gig oen ar ei ben, gan ofalu bod y cig uwchben y basin ffoil er mwyn dal y saim.
Gosodwch y caead ar ben y barbeciw, gan sicrhau bod y tyllau awyru ar agor.
Coginiwch y goes am hyd at ddwy awr nes ei bod yn frown y tu allan. Defnyddiwch thermomedr cig os am fesur y gwres y tu mewn.
Gweinwch y cig oen mewn rholiau bara ffres neu gyda thatws dauphinoise a salad.
Tips coginio Blas
Ychwanegwch berlysiau wedi eu torri'n fân at hufen neu gaws colfran/bwthyn i gael blas gwahanol
Diweddaraf
Amserlen
Ar yr awyr nawr
14:28 Lisa Gwilym
Lisa Gwilym sy'n dewis pob math o gerddoriaeth hamddenol braf ar gyfer ymlacio.


