Advertisement

Cyri Gorgimychiaid

Cynhwysion

  • 3 llwy fwrdd o olew mwstard neu lysiau
  • 1 llwy de yr un o fwstard brown, nigella (hadau nionyn), hadau fennel a hadau cumin
  • 1/2 llwy de o hadau fenugreek
  • 1 nionyn canolig, wedi ei dorri'n giwbiau
  • 1 1/2 llwy fwrdd yr un o arlleg wedi ei dorri'n fân a sinsir fresh wedi ei dorri'n fân (neu o bâst parod garlleg a sinsir)
  • 2-3 chiili gwyrdd. Wedi eu gadael yn gyfan neu eu hollti i lawr y canol.
  • Tynnwch yr hadau os nad ydych yn hoffi gormod o wres yn eich cyri
  • 1/2 llwy de o bowdwr turmeric
  • 1 1/2 llwy fwrdd o bowdwr coriander
  • Halen
  • 4 tomato canolig, wedi eu gratio
  • 800g (pwys a 9owns) o or-gimychiaid amrwd. (Os fedrwch chi brynnu rhai cyfan - golchwch nhw, tynnwch y crwyn a'r gwythiennau allan, gan adael y cynffonnau'n gyfan)
  • 100ml o ddwr poeth
  • 2 lwy de o garam masala
  • 1/2 llwy de o bupur du wedi'i falu'n ffres
  • 1 llwy fwrdd o sudd lemwn
  • Llond dwrn o goriander ffres (y dail a'r coesau)


Dull

  1. Cynheswch yr olew mewn padell a ffrïwch yr hadau'n ysgafn am tua hanner munud
  2. Ychwanegwch y nionyn a'i goginio am rhyw 10 munud tan ei fod yn troi'n liw euraidd
  3. Ychwanegwch y garlleg, sinsir a'r chilli a'u coginio am tua munud cyn ychwanegu'r turmeric, powdwr coriander a'r halen
  4. Rhowch y tomatos yn y badell a mudferwi'r gymysgedd am tua 10 munud, gan ychwanegu ychydig o ddwr os oes angen
  5. Ychwanegwch y gor-gimychiaid a'r dwr. Berwch y cyfan, yna gostwng y gwres a rhoi caead ar y sosban, gan fud-ferwi tan fod y gor-gimychiaid wedi coginio
  6. Tynnwch y caead, a berwch y cyri tan fod y saws yn lleihau ac yn trwchu.
  7. Trowch gweddill y sbeisus, y sudd lemwn a'r coriander ffres i mewn i'r cyri a gweinwch efo bara roti neu reis

Tips coginio Blas

Defnyddiwch fenyg rwber i drin chillies rhag ofn i chi losgi drwy rwbio eich wyneb a'ch dwylo wedyn

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno cymysgedd o'r gerddoriaeth orau ac yn trafod pynciau'r dydd.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.