Advertisement

Myffins banana a mêl

Mae'r rysait yn addas ar gyfer bobl sy'n dioddef o glefyd siwgr

Cynhwysion

250g (8owns) o flawd plaen
75g (2 1/2 owns) o geirch (rolled oats)
1 llwy fwrdd o bowdwr pobi
1/2 llwy de o nutmeg wedi'i gratio
2 fanana ganolig wedi eu stwnsho
1 wy wedi'i guro
75g (2 1/2 owns) o fenyn heb halen wedi'i doddi
30g (1 owns) o siwgr muscofado golau
175ml (6 owns fluid) o laeth enwyn (buttermilk)
3 llwy de o fêl

Dull

1. Cynheswch y popdy i dymheredd o 200gradd (400F / marc nwy 6)
2. Cymysgwch y cynhwysion sych i gyd mewn powlen gyda'i gilydd
3. Cymysgwch y gweddill i gyd at ei gilydd mewn powlen ar wahan, ac
yna'i gymysgu i mewn efo'r cynhwysion sych gan ddefnyddio llwy fetal. Ceisiwch beidio cymysgu yn ormodol
4. Rhowch lond llwy fwrdd o'r gymysgedd i mewn i gasus papur mewn tin cacennau bach, a'u pobi am tua 20 munud tan fydd y cacennau wedi codi ac wedi troi'n lliw euraidd. Gadewch i'r cacennau oeri am tua 10 munud cyn ei bwyta tra fyddan nhw dal yn gynnes

Tips coginio Blas

Cofiwch fod y mwyafrif o bysgod yn parhau i goginio am funud neu ddwy ar ôl dod oddi ar y gwres, felly gofalwch rhag or-coginio

Amserlen

Ar yr awyr nawr

14:04 Jonsi

Jonsi yn y p'nawn gyda chymysgedd o gerddoriaeth fywiog, sgwrs a chystadleuaeth, yn ogystal a'r Newyddion, Chwaraeon a'r Traffig diweddara.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.