Bombe Pwdin Dolig
Cynhwysion
14 owns o ffrwythau sych o'ch dewis chi
4 owns hylif o frandi (neu unrhyw wirod fyddai'n well gennych chi - Cointreau neu Armagnac er enghraifft)
4 melynwy
3 llwy fwrdd siwgr caster
7 owns hylif hufen dwbl
1 can 165ml hufen coco
10 owns mafon
2 lwy fwrdd siwgr eisin
Dull
1. Gorchuddiwch y ffrwythau efo'r brandi a gadewch y cwbl i fwydo dros nos os yn bosib, neu am gwpl o oriau o leia
2. Rhowch haenen lynu y tu mewn i 6 mowld pwdin (neu defnyddiwch gwpanau neu bowlenni bach os nad oes mowldiau penodol ar gael)
3. Chwisgiwch y melynwy a'r siwgr efo'i gilydd nes ei fod yn tewychu ac yn troi'n lliw golau
4. Plygwch yr hufen i mewn i'r gymysgedd ac ychwanegwch yr hufen cnau coco ac yna'r ffrwythau
5. Rhowch y cymysgedd cyfan yn y rhewgell am tua dwy awr i ddechrau'r broses rewi
6. Tynnwch y bowlen o'r rhewgell a chymysgwch y cyfan efo'i gilydd gyda llwy bren. Rhannwch y cymysgedd rhwng y mowldiau a rhowch y rheiny yn ôl yn y rhewgell tan fyddwch yn barod i'w gweini
7. Tynnwch y pwdinau o'r rhewgell tua hanner awr cyn eu gweini, a dechreuwch baratoi'r saws
8. Rhowch y mafon mewn sosban efo'r siwgr eisin a'i gynhesu tan fydd y siwgr wedi toddi a'r mafon wedi dechrau troi'n stwnsh. Tywalltwch y saws drwy ridyll i gael gwared ar yr hadau
9. Tynnwch y pwdinau o'u mowldiau ac arllwyswch y saws drostynt.
Tips coginio Blas
Gallwch ddefnyddio hadau pomgranad fel addurn ar reis, tatws a saws afal
Diweddaraf
Amserlen
Ar yr awyr nawr
20:02 C2: Magi a Glyn
Magi a Glyn yn edrych nôl dros ffilmiau mwyaf poblogaidd 2009.


