Advertisement

Cig oen barbeciw

Cynhwysion

  • Rac o gig oen

  • Olew olewydd

  • Llond dwrn o sbrigau rhosmari

  • 1/4 pot o iogwrt naturiol

  • Llond dwrn o gaws stilton wedi'i falu

  • Garlleg wedi'i falu

Dull coginio

1. Torrwch holltau i mewn i'r rac cig oen, ond heb dorri'r holl ffordd drwy'r golwythion.
2. Rhowch yr olew, rhosmari a'r garlleg mewn dysgl a rhwbiwch y cyfan i mewn i groen y cig oen.
3. Gosodwch y cig croen-lawr ar y barbeciw a'i selio tan ei fod yn frown - tua 5 munud.
4. Cymysgwch yr iogwrt a'r caws mewn powlen.
5. Gwnewch barsel allan o ffoil a rhowch y cig oen i mewn, ynghyd â'r gymysgedd caws a'r rhosmari.
6. Seliwch y parsel yn llac a'i osod yn ôl ar y barbeciw am tua hanner awr, gan ddibynnu ar pa mor binc fyddwch chi'n hoffi'ch cig oen.
7. Gweinwch gyda'r caws fel saws a phupur du wedi'i falu'n ffres.

Tips coginio Blas

Pan ydych yn gwneud eich eisin eich hun, ychwanegwch ychydig o finegr i'r gymysgedd. Bydd hyn yn atal yr eisin rhag cracio pan mae'n sychu ar y gacen

Amserlen

Ar yr awyr nawr

01:00 Gweler BBC Radio 5 live

Nos Da, rhaglen nesaf am 5.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.