Advertisement

Ffiled o Gig Eidion gyda Tharagon

Cynhwysion

6 ffiled o gig eidion
25g menyn
6 madarchen fawr
olew olewydd
4 sialot wedi ei torri'n fan
100ml gwin gwyn sych
50ml hufen dwbwl
1 llwy fwrdd mwstard bras
1 clof garlleg wedi ei falu
bwnsiad o daragon
halen a phupur

Dull

1. Ymdoddwch y menyn mewn padell ffrio a ffrio'r madarch cyn eu cadw'n gynnes.
2. Mewn sosban arall, cynheswch yr olew a ffrio'r sialots yn araf tan iddyn nhw feddalu. Ychwanegwch y gwin a'i ferwi am 3 munud cyn troi'r gwres lawr ac ychwanegu'r hufen, mwstard, garlleg, tarragon, halen a phupur. Cynheswch y saws yn drwyadl ond peidiwch a gadael iddo ferwi.
3. Ffriwch y cig eidion yn sydyn mewn olew olewydd.
4. Gweinwch y cig ar wely o fadarch gyda'r saws ar ei ben.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.