Baklafa
Cynhwysion
6 haenen o grwst filo o baced40 ml o fenyn wedi'i doddi
100g o gnau a ffrwythau sych cymysg o'ch dewis
2 llwy fwrdd o fêl
Ar gyfer y saws
Sudd 2 oren3 llwy fwrdd o fêl
2 lwy fwrdd o fenyn
Dull
1. Cynheswch y popty i dymheredd o 200 gradd / Nwy 6.2. Rhowch un haenen o'r crwst ar dun pobi wrth-lynu (non-stick). Defnyddiwch frwsh i'w orchuddio efo menyn, yna gosodwch haenen arall ar ei ben. Parhewch efo'r haenau o grwst a menyn tan fod yna dair haenen o grwst gyda chi i gyd.
3. Cymysgwch y ffrwyth, y cnau a'r mêl mewn prosesydd bwyd nes ei fod yn gymysgedd eitha bras.
4. Taenwch y gymysgedd ffrwyth allan dros ben yr haenau crwst.
5. Rhowch haenen arall o grwst ar ben y ffrwyth a pharhewch efo adeiladu'r haenau o grwst a menyn.
6. Pobwch am tua 10 munud nes fod y crwst yn liw euraidd.
7. Yn y cyfamser, cynheswch gynhwysion y saws mewn sosban. Gadewch iddo ferwi ac yna mudferwi am rai munudau iddo gael trwchu.
8. I weini, torrwch y baklava yn sgwariau a thywalltwch y saws drosto.
Tips coginio Blas
Dewisiwch fananas sydd heb aeddfedu'n llawn ar gyfer bwydydd sawrus, a bananas sydd wedi gor-aeddfedu ar gyfer bwydydd sy'n cael eu pobi
Diweddaraf
Amserlen
Ar yr awyr nawr
17:03 Oedfa'r 'Dolig
Gwraig y Llety sy'n ein tywys ni at y preseb yn Oedfa Dydd Nadolig eleni.


