Advertisement

Foccacia

Cynhwysion

3 bag burum sych (7g yr un)
30g mel
625 ml dwr cynnes
500g blawd cryf
500g blawd semolina
30g halen
Rhosmari
Halen mor
2 lwy fwrdd o olew olewydd

Dull.

1. Cymysgwch y burum a'r mel mewn jwg gyda hanner y dwr a'i adael i adweithio.
2. Rhowch y blawd a'r halen mewn powlen fawr a'u cymysgu, cyn ychwanegu'r dwr a burum.
3. Dechreuwch gymysgu, yna ychwanegwch weddill y dwr i greu toes.
4. Tylinwch y toes am o leia 5 munud yna'i adael mewn lle cynnes i ddyblu yn ei faint. Fe gymer hyn tua 45 munud.
5. Curwch yr aer allan o'r toes, a'i siapio i'r siap a ddymunwch.
6. Gwnewch dyllau yn y toes gyda'ch bysedd, a rhoi pinsiad o rosmari wedi ei chwalu ym mhob twll. Gwasgarwch halen mor ar ei ben a thywallt yr olew ar ei ben.
7. Gadewch i'r bara godi mewn lle cynnes unwaith eto (am tua 40 munud) yna pobwch yn y popty - 220' am tua chwarter awr.
8. Rhowch fwy o olew olewydd dros y bara tra mae dal yn boeth, a bwytewch cyn i'r bara oeri.

Tips coginio Blas

I gadw llaeth yn ffres am fwy o amser, rhowch binshed o halen yn y llaeth pan yn agor y botel am y tro cyntaf

Amserlen

Ar yr awyr nawr

10:30 Nia

Busnesu a sgwrsio, chwerthin a chrio - y cyfan ar raglen newydd Nia.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.