Advertisement
Ffiled o eog organic gyda brocoli piws a saws rhosmari

Ffiled o eog organic gyda brocoli piws a saws rhosmari

gan Ifan Dunn o Fwyty Mawddach

Cynhwysion

(i bedwar)
4 ffiled eog organic (tua 200g yr un) hefo'u croen arnynt a'u gennau a'r esgyrn bychain wedi'u tynnu ffwrdd
2 llwy fwrdd o olew olewydd
500g brocoli piws, efo'i dail
2 llwy fwrdd o ddail rhosmari wedi torri'n fan iawn
Sudd hanner lemwn 8 brwyniad (anchovy) math croen arian wedi'u torri'n fan
4 llwy fwrdd o olew olewydd 'extra virgin'

Dull

Cynheswch y popty i 250 C
1. Yn gyntaf, cychwynwch goginio'r eog drwy gynhesu padell ffrio (wrth lynnu) dros wres canolig, ychwanegwch yr olew olewydd at y badell, gadewch i'r olew gynhesu am eiliad cyn blasu'r ffiledi gyda halen mor meddal a phupur a'i osod yn y badell, croen ar ei lawr. Gadewch i'r pysgod goginio'n araf am tua 5 munud heb droi, nes bod y croen wedi'i liwio a chrasu'n gyson.
2. Yn y cyfamser, paratowch y brocoli gan dorri a chael gwared ar y coesau trwchus ar waelod y llysiau. Rhowch sosban ddofn efo tua modfedd o ddwr ynddo ar wres i ferwi.
3. Trowch yr eog drosodd yn ofalus, i osgoi torri'r croen, yna gosodwch yn y popty.
4. Tra bod yr eog yn coginio drwyddo, paratowch y saws rhosmari. Mewn powlen fawr, cymysgwch y rhosmari, brwyniad a'r sudd lemwn gydag ychydig o halen mor feddal a phupur, yna tywalltwch yr olew 'extra virgin' i mewn yn araf gan chwisgo'n ddi-dor. Ychwanegwch fwy o halen a phupur ac olew neu sudd lemwn os ydych yn dymuno.
5. A'r ôl tua chwe munud bydd yr eog yn barod. Tynnwch o'r popty a chadwch yn gynnes. Gosodwch y brocoli yn y sosban o ddŵr berw hefo caead a gadewch i goginio am funud a hanner (mae hyn yn hen ddigon o amser gan fod y brocoli yn troi'n feddal yn gyflym iawn). Gleiniwch y brocoli a rhannwch rhwng pedwar plât poeth. Gosodwch y ffiledi o eog wrth ochr y broccoli, a gwasgarwch y saws dros ac o gwmpas y cwbwl.

Tips coginio Blas

Os ydych chi'n trio bwyta'n iach, triwch banas yn lle sglodion - berwch nhw am ychydig, torrwch nhw mewn i stribedi, rhowch ychydig o olew drostyn nhw a'u rhoi yn y popty tan eu bod nhw wedi brownio! Hyfryd!

Amserlen

Ar yr awyr nawr

22:02 C2: Lisa Gwilym

Bethan Elfyn yn cyflwyno sesiynau acwstig, artist yr wythnos a'r diweddaraf o'r sîn cerddoriaeth.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.