Sôs Coch.

16 Chwefror 2010

Sôs Coch

.

Cynhwysion

1 llwy fwrdd o olew olewydd
5 nionyn coch
1kg (2lb) afalau coginio
2.5kg (6lb) tomatos aeddfed
13oz siwgwr caster
500ml (17fl oz) finagr seidr
10 clôf
2 star anise
3 deilen Bay
12 aeron Juniper
halen mor a phupur du

Dull

1. Rhowch yr olew mewn sosban ar dymheredd canolig, ychwanegwch y nionod a'u chwysu am tua 5 munud tan eu bod yn feddal.
2. Torrwch yr afalau'n a'r tomatos yn giwbiau mawr a'u rhoi yn y sosban efo'r siwgr a'r finag.
3. Clymwch y sbeisus mewn sgwar neu fag muslin a'u taflu i'r sosban. Yna trowch y tymheredd i lawr fymryn a gadael y cyfan i fud-ferwi am awr a hanner gan ei gymysgu'n achlysurol rhag ofn iddo losgi neu lynu at waelod y sosban.
4. Mae'r sôs yn barod pan mae'r cymysgedd wedi lleihau a thrwchu dipyn ac mi ddylai edrych yn sgleiniog.
5. Ychwanegwch halen a phupur ar ôl blasu. Tynnwch y muslin/sbeisus ac yna rhoi'r cymysgedd trwy brosesydd bwyd i'w wneud yn llyfn os ydych yn dymuno.
6. Gadewch i'r gymysgedd oeri cyn ei roi i mewn i jariau wedi'i sterileiddio. Bydd y sôs yn cadw am rai misoedd yn yr oergell neu mewn cwpwrdd tywyll, oer.

Tips coginio Blas

Pan ydych yn gwneud eich eisin eich hun, ychwanegwch ychydig o finegr i'r gymysgedd. Bydd hyn yn atal yr eisin rhag cracio pan mae'n sychu ar y gacen

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.