Advertisement

Cregyn Gleision y Lobster Pot.

Cynhwysion.

100g o fenyn
1 nionyn wedi'i dorri'n fân
3 darn o arlleg wedi'i dorri'n fân
1 kg o gregyn gleision ffres wedi eu golchi (taflwch unrhyw rai sydd â chragen wedi torri neu sydd ddim yn cau wedi eu taro'n ysgafn)
250ml o hufen dwbwl
Hanner potel o win gwyn
Dau lond dwrn o bersli ffres wedi'i dorri'n fân
Lemwn

Dull

1. Toddwch y menyn mewn sosban
3. Ychwanegwch y garlleg a ffrïwch am ychydig eto
4. Ychwanegwch y gwin a berwch y cyfan yn sydyn am 4-5 munud, yna ychwanegwch yr hufen a'i ferwi eto i drwchu ychydig
5. Yn y cyfamser, rhowch hanner cwpan o ddwr i ferwi mewn sosban arall
6. Ychwanegwch y cregyn gleision at y dwr a rhowch y caead ar y sosban. Berwch am rai munudau tan fod y cregyn i gyd yn agor
7. Codwch y cregyn i fowlenni gweini ac arllwys y saws dros eu pennau. Taflwch y persli dros ben y cyfan a gweinwch gyda sleisus o'r lemon

Tips coginio Blas

Os nad oes ganddoch chi win gwyn yn tŷ ac angen peth ar gyfer ryseit, gallwch ddefnyddio sudd afal neu sudd moron; neu oes oes angen gwin coch, defnyddiwch hanner cwpan o ddŵr a ddwy lwy de o finegr balsamic.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

10:30 Nia

Busnesu a sgwrsio, chwerthin a chrio - y cyfan ar raglen newydd Nia.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.