Advertisement

Byrgyrs Cig Oen.

Cynhwysion

100g grawn bulgar
200ml stoc cyw iar poeth
250g cig oen wedi'i falu'n fân
1 nionyn bach, wedi'i fannu
1 foronen, wedi'i gratio'n fân
Llond llaw o ddail mintys ffres
Halen a phupur
(1 wy - os bydd angen)

Dull

1. Rhowch y grawn bulgar mewn powlen a thywalltwch y stoc poeth ar ei ben. Gadewch y cyfan am 20 munud tan fod y grawn yn dyner ac wedi amsugno'r stoc. Sichrewch nad ydi'r gymysgedd yn rhyw wlyb, os nad ydi'r grawn wedi amsugno'r stoc i gyd, defnyddiwch ridyll i gael gwared ar weddill y stoc.

2. Cymysgwch y cig oen i mewn i'r grawn. Ychwanegwch y nionyn, y foronen a halen a phupur. Os na fydd y gymysgedd yn glynu at ei gilydd yn hawdd, ychwanegwch yr wy.

3. Rhannwch mewn i siapiau byrgars a ffriwch neu griliwch am 3-4 munud, gan gymeryd gofal i gadw siap y byrgars.

4. Gweiniwch mewn rholiau bara efo salad, a saws neu salsa o'ch dewis.

Tips coginio Blas

Cofiwch fod y mwyafrif o bysgod yn parhau i goginio am funud neu ddwy ar ôl dod oddi ar y gwres, felly gofalwch rhag or-coginio

Amserlen

Ar yr awyr nawr

15:15 Jonsi

Jonsi yn y p'nawn gyda chymysgedd o gerddoriaeth fywiog, sgwrs a chystadleuaeth, yn ogystal a'r Newyddion, Chwaraeon a'r Traffig diweddara.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.