Cawl Blodfresych
Cynhwysion.
50g menynNionyn mawr
Garlleg- 2 clof neu llwy fwrdd o puree
Blodfresych
3 llwy fwrdd o bowdr cyri
Persli
2 llwy fwrdd blawd plaen
2 llwy fwrdd o cornflour
100ml dwr ffisi
Halen a phupur
Dull.
1. Rhowch y nionyn i feddalu mewn sosban efo'r menyn2. Ychwanegwch y garlleg a'r blodfresych a'u coginio am 2 i 3 munud.
3. Ychwanegwch 3 llwy fwrdd o bowdwr cyri ( heb fod yn rhy gryf) a'i gymysgu'n drwyadl.
4. Ychwanegwch stoc llysiau - digon i orchuddio'r blodfresych a'i adael i ferwi am hanner awr cyn ei chwalu'n llyfn
5. I wneud y 'tempora florets' - dowciwch florets bychan yn y cytew a'u ffrio mewn olew 180 am rhyw 3 mumnud.
6. Sychwch y saim oddi arnyn nhw cyn eu gweini yng nghanol y cawl.
Tips coginio Blas
I atal llwydni rhag tyfu ar eich caws rhowch gwibiau siwgwr yn y bocs gyda'r caws pan ydych yn ei roi yn yr oergell
Diweddaraf
Amserlen
Ar yr awyr nawr
08:30 Eleri Siôn a Dafydd Du
Ymunwch yn yr hwyl bob bore gydag Eleri Siôn a Dafydd Du.


