Gratin ysgewyll, cennin a chaws glas
Cynhwysion
Ysgewyll ffres
Garlleg wedi'i fannu
Shallot wedi'i fannu
Cennin wedi'i fannu
Caws glas
Brandi
Hufen dwbl
Menyn
Caws Parmesan ffres
Dull
1. Torrwch y sgewyll mewn i stribedi2. Toddwch y menyn mewn padell a ffrïwch y garlleg a'r shallot tan ei fod yn dechrau meddalu
3. Ychwanegwch y cennin a'i ffrïo'n ysgafn am ychydig funudau, yna ychwanegwch y sgewyll gan droi'r gymysgedd yn gyson am tua 3 munud
4. Rhowch joch go dda o frandi i mewn i'r badell a defnyddiwch fflam i greu flambé
5. Ychwanegwch hufen dwbl a thorrwch y caws glas i mewn i'r badell iddo doddi yn y gwres efo'r hufen
6. Berwch y cyfan yn ysgafn tan fod y caws i gyd wedi toddi
7. Rhowch y gymysgedd i mewn i fowlen gratin, gratiwch gaws parmesan ar ei ben a rhowch y fowlen yn y popty neu o dan gril poeth tan fod y caws wedi troi'n liw aur/frown
Tips coginio Blas
Os ydych chi'n trio bwyta'n iach, triwch banas yn lle sglodion - berwch nhw am ychydig, torrwch nhw mewn i stribedi, rhowch ychydig o olew drostyn nhw a'u rhoi yn y popty tan eu bod nhw wedi brownio! Hyfryd!
Diweddaraf
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno cymysgedd o'r gerddoriaeth orau ac yn trafod pynciau'r dydd.


