Advertisement

Mins Peis Brychan

Cyhwysion.

I greu y llenwad.

140g o ffrwythau sych
50g o rawnwyn coch heb hadau wedi'u torri'n fân
25g cnau almwn wedi'u torri
Croen 1 lemwn wedi'i gratio'n fân
1 llwy fwrdd o sudd lemwn
2 llwy fwrdd o sudd oren
1 llwy de o bowdwr sbeis cymysg
3 llwy fwrdd o frandi

Ar gyfer y crwst.

85g o fenyn
175g o fflwr plaen
1 llwy fwrdd o siwgr crai
Croen 1 oren bach wedi gratio'n fân

Ar gyfer y crymbl.

Tua 1 llwy fwrdd o fenyn oer
25g o flawd plaen
1 llwy fwrdd o siwgr crai

Dull.

1. Cynheswch y popty i 180 gradd c/marc nwy 4
2. Gwnewch y llenwad drwy gymysgu'r holl gynhwysion mewn bowlen fawr
3. Gadewch y ffrwythau i amsugno'r brandi a'r sudd oren a lemwn am ryw hanner awr
4. Rhwbiwch y menyn i mewn i'r blawd gyda blaenau eich bysedd tan ei fod yn edrych yn debyg i friwsion bara
5. Ychwanegwch y siwgr a'r croen oren a 2 lwy fwrdd o ddwr
6. Rhowch ychydig o flawd ar y bwrdd a gweithiwch y toes at ei gilydd nes ei fod yn llyfn
7. Rhowch ychydig o flawd ar y bwrdd a rholiwch y toes. Cofiwch fod angen i'r crwst fod yn denau iawn.
8. Torrwch y toes yn gylchau bach gyda thorrwr 6mm a'u rhoi mewn tin pwrpasol
9. Mewn powlen fach, gwnewch y crymbl trwy rwbio'r menyn i mewn i'r blawd tan ei fod yn edrych yn debyg i friwsion bara
10. Ychwanegwch y cnau almwn a'r siwgr
11. Gan ddefnyddio llwy de, llenwch y cylchau o does gyda'r llenwad
12. Gwasgwch y llenwad i lawr yn ofalus er mwyn gadel lle i'r crymbl ar y top
13. Rhowch ychydig o'r crymbl ar ben bob 'pei'
14. Rhowch yn y popty am 20 munud

Tips coginio Blas

Pan ydych yn gwneud eich eisin eich hun, ychwanegwch ychydig o finegr i'r gymysgedd. Bydd hyn yn atal yr eisin rhag cracio pan mae'n sychu ar y gacen

Amserlen

Ar yr awyr nawr

20:00 C2: Magi Dodd

Magi Dodd yn edrych nôl dros Daith Ysgolion C2/Ciwdod '09.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.