Caserol Selsig a Ffa Manon Elis
Caserol Selsig a ffa Manon Elis.
Digon I 4.
Cynhwysion.
Olew olewydd1 Nionyn canolig wedi'I dorri'n fan
Paced o 24 selsig bach
6 sleisen o gig moch 'streaky ' wedi ei dorri'n fan.
2 Dun (400 g) o'ch dewis o ffa.
1 tun o o domatos wedi torri.
Ychydig o bupur wedi eu rhostio allan o jar
2 lwy fwrdd o sos coch.
Ychydig o stoc ciw iar
LLond mwg o bys wedi rhewi
Pupr
Parsli
Bara ffrengig I weini efo fo.
Dull.
1.Ffrio'r nionod, y cig moch a'r selsig I'w lliwio.2.Ychwanegu'r ffa, y tomatos,pupur. Sos coch, digon o stoc I archuddio'r cwbwl.
3.Gadewch I'r caserol ferwi am tua 10 munud, cyn ychwanegu'r pys rhewedig a'r parsli.
Tips coginio Blas
I atal llwydni rhag tyfu ar eich caws rhowch gwibiau siwgwr yn y bocs gyda'r caws pan ydych yn ei roi yn yr oergell
Diweddaraf
Amserlen
Ar yr awyr nawr
20:02 C2: Magi Dodd
Jeni Lyn yn cicio drysau C2 ar agor gyda'i sodlau uchel!


