Advertisement

Cyri Kerala gan Gwion ap Rhishart

Cynhwysion Cyri bysgodyn o Kerala, De India

Ar gyfer dau berson

1 nionyn mawr
5-6 garlleg
1 darn o sinsir fresh (2 fodfedd o hyd)
4-5 chili coch
2 llwy de o tamarind
Halen a pupur (i flas)
Olew llysiau
1 llwy de o hadau mwstard
1 ffiled mawr o Maelgi (Monkifish)
Dail cyri (6 deilen)
2 llwy de Fenugreek
1 llwy bwdin o bowdwr coriandyr
1 llwy bwdin o bowdwr cwmin
2 llwy de o turmenric
½ can o llaeth cneuen goco
2 gwpan o reis basmati

Deunydd arall
Sosban
Wok neu sosban ffrio mawr
Peiriant blendio

Dull.

1. Torri'r nionyn yn ffein, ac yna eu rhoi i un ochr
2. Paratoi y garlleg, sinsir (drwy dynnu'r croen oddi arnynt
3. Torri'r chilis ar eu hun a chrafu y yr hadau a'r memrwn allan ohonoynt
4. Y garlleg, sinsir, chiliscoriandyr, cwmin, turmeric a fenugreek mewn i'r blender, a'i chwalu dan mae'n bast llyfn
5. Berwi'r tecell, a thollti'r dŵr berwedig dros y reis yn y sosban. Rhowch y cogydd ymlaen yn uchel i ddechrau, tan i'r dŵr ddechrau berwi. Yna, dewch a'r tymheredd i lawr yn isel gan roi ceuad ar y sosban sy'n cynnwys y reis. Gadewch y reis ar dymheredd isel iawn am tua 12 munud.
6. Ychwanegwch ychydig o olew llysiau yn y wok neu sosban ffrio. Wedyn ychwanegwch yr hadau mwstard tan maent yn dechrau popio ac wedyn y dail cyri. Yna ychwanegwch y nionyn/winwnsangen ffrio y nionyn am ddau neu dri munud, cyn ychwanegu y past a wnaethwyd yn cynharach.
7. Bydd angen coginio'r cynnwys am funud neu ddau, ac ychwanegu ychydig o ddwr os yw'n sychu gormod.
8. Y cam nesaf yw i ychwanegu y llaeth cneuen goco a'r sudd tamarind at y cymysgedd.
9. torrwch y maelgi mewn darnau o tua 2 foddefedd o hyd, a'I hychwanegu at weddill y cyri. Bydd yn cymryd tua pump i saith munud i goginio'r pysgodyn, ac yna bydd y bwyd yn barod i gael ei fwyta.

Tips coginio Blas

Cofiwch fod y mwyafrif o bysgod yn parhau i goginio am funud neu ddwy ar ôl dod oddi ar y gwres, felly gofalwch rhag or-coginio

Amserlen

Ar yr awyr nawr

08:30 Eleri Siôn a Dafydd Du

Ymunwch yn yr hwyl bob bore gydag Eleri Siôn a Dafydd Du.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.