Advertisement

Cacen Gaws Lisa

Cacen Gaws Lisa

Cynhwysion

I'r crwst:
10 bisgien digestive
50g / 2oz menyn wedi ei feddalu
25g /1oz siwgr demerara

I'r llenwad:
150ml / 5 fl oz hufen sengl
400g /14oz llefrith trwchus (condensed milk)
175g/ 6 oz caws hufenog
sudd a chroen 3 lemon

Dull

Cymysgwch y bisgedi, menyn a siwgr i ffurfio'r crwst.
Gwasgwch y gymysgedd i waelod tun 23 cm / 9 modfedd.

I'r llenwad - cymysgwch yr hufen, llefrith, caws meddal, croen a sudd y lemwn nes fod y gymysgedd yn llyfn.
Arllwyswch hwn ar ben y crwst a'i adael am 3-4 awr yn yr oergell i galedu.

Tips coginio Blas

Triwch osgoi sosbenni aliminiwm pan ydych chi'n coginio madarch sy'n olau ei lliw, oherwydd gall yr aliminiwm ddifetha lliw'r madarch

Amserlen

Ar yr awyr nawr

22:00 Wil Morgan

Nos Sadwrn gyda Wil Morgan â'ch ceisiadau.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.