Fondue Brychan
Cynhwysion
30g o fenyn
250g o gennin wedi'u torri'n fân
6 llwy de o flawd plaen
250ml o lager
315g o gaws Caerffili wedi ei gratio
Pupur
Bara
Dull coginio
Rhowch y menyn yn y bowlen fondue a'i doddi.
Ychwanegwch y cennin a'i goginio am 10 munud.
Ychwanegwch y blawd a'i goginio am funud, wedyn ychwanegwch y lager a'i adel tan fod y gymysgedd wedi tewhau (gan droi'r gymysgedd yn gyson).
Yn raddol, ychwanegwch y caws a'i adael tan ei fod wedi meddalu, gan barhau i droi'r gymysgedd.
Ychwanegwch ychydig o bupur.
Gweinwch gyda bara ffres.


