Advertisement
Cig oen Brychan

Cig oen Brychan

Cynhwysion

I wneud yr oen...

2 ffiled o lwyn oen heb esgyrn ynddynt
2 clof o arlleg
2 gan 75g/3oz o ffiledau brwyniaid mewn olew olewydd
tusw o lafant, wedi eu casglu'n ffres
halen a phupur du ffres wedi ei falu
2 lwy de o fêl lafant (neu unrhyw fêl rhedegog arall os nad yw hwnnw ar gael)

I wneud y sglein mêl lafant...

50ml/2fl oz/3 ½ llwy fwrdd o fêl lafant (neu unrhyw fêl rhedegog arall os nad yw hwnnw ar gael)
50ml/2fl oz/3 ½ llwy fwrdd o olew olewydd

Dull

1. Cynheswch y popty at dymheredd o 200C/400F/Nwy 5.
2. I baratoi'r oen, defnyddiwch gyllell finiog i wneud tua 20 toriad bach, tua 2cm (1 modfedd) o ddyfnder, ym mhob lwyn oen.
3. Tynnwch y croen oddi ar y clofau garlleg, a'u torri'n stribedi tenau. Rhowch ddarn bach o arlleg, hanner ffiled brwyniad a brigyn o lafant ym mhob twll nes eu bod yn llawn.
4. Rhowch y cig oen ar blât popty, gan ychwanegu halen a phupur du, a thaenwch y mêl lafant drosto. Rhostiwch ef yn y popty am 20-30 munud, neu nes ei fod wedi coginio at eich dant, gan daenu'r sudd drosto bob hyn a hyn er mwyn cadw'r cig yn wlyb ac atal y mêl rhag llosgi. Tynnwch ef o'r popty a'i adael i sefyll am ddeg munud cyn ei weini.
5. Ar gyfer y sglein mêl lafant, cynheswch y mêl mewn sosban fach. Ychwanegwch yr olew olewydd a'i chwipio er mwyn cymysgu'r cyfan.

Tips coginio Blas

I wneud eich cyri yn fwy iach, defnyddiwch iogwrt yn lle hufen, ond gofalwch rhag ei ferwi neu fydd y gymysgwch yn gwahanu

Amserlen

Ar yr awyr nawr

18:30 Geraint Lloyd

Geraint Lloyd gyda digon o gerddoriaeth, sgwrs a hysbys o stiwdio Aberystwyth.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.