Ffiled draenog y môr wedi ei rilio'n ysgafn, gyda chregyn bylchog wedi eu taenu â stwnsh pys o'r ardd
gan David Doughty o Westy Portmeirion
Cynhwysion
1 ffiled draenog y môr (tua 6 owns)
3 cragen fylchog o'r un maint
4 oz o bys o'r ardd
1 clof o arlleg
20ml hufen dwbl
2 sialot wedi eu pilio a'u torri
30ml gwin gwyn
4oz menyn
3 melynwy
Dull
Rhowch y ffiled ar blât popty gydag ychydig o fenyn arno a griliwch ef ar y tymheredd isaf posib.
Rhowch y pys mewn sosban gyda'r clof garlleg a phinsiad o sialots wedi eu torri - rhowch ddŵr drostynt ac ychwanegwch ddarn o fenyn os oes angen.
Dowch ag ef i'r berw yna taflwch y dŵr i ffwrdd ac ychwanegwch yr hufen dwbl a'i droi'n stwnsh mewn peiriant cymysgu.
Ar gyfer y saws hollandaise....
Gwahanwch yr wyau. Yna, gan ddefnyddio'r melynwy'n unig, rhowch nhw mewn powlen ddur di-staen neu bowlen wydr trwm a thoddwch y menyn mewn sosban.
Mewn sosban arall, cynheswch y gwin a'r sialots nes eu bod bron wedi anweddu - byddwch angen tua un llwy fwrdd o'r sudd hwn.
Ychwanegwch y sudd at y melynwy a churwch ef yn drylwyr nes ei fod bron yn stiff.
Pan fydd y menyn wedi toddi, ychwanegwch ef at y melynwy, gan ei gymysu drwy'r amser, neu fel arall bydd y saws hollandaise yn gwahanu.
Pan fydd y saws wedi cyrraedd y trwch cywir, blaswch ef ac ychwanegwch bupur a halen.
Coginiwch y pysgod gan ofalu peidio gor goginio'r cregyn bylchog.
Tips coginio Blas
I dorri wyau wedi berwi heb wneud llanast, rhowch gyllell mewn dŵr berwedig cyn ei defnyddio i dorri


