Berenjenas Rellenas (sef planhigyn wy wedi rhostio a'i stwffio â chaws gafr) a Saws Soffrita
gan Rhodri Edwards o Ultra Comida, Aberystwyth
Cynhwysion
1 Planhigyn wy mawrCaws gafr (ee Caws y Graig)
Nionyn
2 glof garlleg
Tomatos plwm
Olew olewydd
Parsli ffres
Cnau pin
Dull
Torrwch y planhigyn yn sleisis mawr tua 1/4 modfedd o drwch (i lawr o'r top i'r gwaelod).Rhowch y sleisis ar dun rhostio fflat a'u gorchuddio ag olew olewydd.
Rhowch yn y popty am 10 munud tan eu bod nhw'n feddal (ar wres 180 gradd).
Gadewch iddyn nhw oeri.
I wneud y Saws Soffrita.....
Torrwch y nionyn yn fân.
Ychwanegwch y garlleg.
Ffriwch ar dymheredd isel.
Ychwanegwch dun o domatos plwm at y nionod a'r garlleg a gadewch iddynt goginio am 40 munud.
Wedyn.....
Torrwch ddarn tenau o gaws gafr a lapiwch y sleisen o blanhigyn wy o amgylch y caws.
Taenwch y saws soffrita dros y planhigyn wy a'r caws.
Rhowch barsli ffres a chnau wedi'u rhostio ar y top.
Tips coginio Blas
Cofiwch lapio caws glas yn ofalus oherwydd gall y llwydni ymledu i unrhyw fwydydd cyfagos
Diweddaraf
Amserlen
Ar yr awyr nawr
08:02 Eleri Siôn a Dafydd Du
Ymunwch yn yr hwyl bob bore gydag Eleri Siôn a Dafydd Du.


