Ffigis gyda chaws glas wedi'i lapio mewn cig moch serrano
gan Rhodri Edwards o fwyty Ultra Comida, Aberystwyth
Cynhwysion
Ffigis ffres wedi'u torri yn hannerUnrhyw gaws glas, ee Roquefort
Cig moch serrano
Mêl
Dull
1. Rhowch ddarn maint cneuen o gaws glas ar ben y ffigis.2. Lapiwch ddarn o gig moch o gwmpas y ffigis a'r caws.
3. Rhowch ef yn y popty am tua 10 munud ar wres 180 gradd tan eu bod nhw yn grisp.
4. Pan mae nhw'n barod, taenwch ychydig o fêl rhedegog ar dop y ffigis.
Tips coginio Blas
I wneud eich cyri yn fwy iach, defnyddiwch iogwrt yn lle hufen, ond gofalwch rhag ei ferwi neu fydd y gymysgwch yn gwahanu
Diweddaraf
Amserlen
Ar yr awyr nawr
12:30 Tudur Owen
Hiwmor ffraeth, sgyrsiau difyr a doniol, a'r diweddara' o'r byd chwaraeon hefo'r digrifwr Tudur Owen.


