Afu Cyw Iar gyda Chig Moch Sir Gar (Canape Diane)
gan Robert James
Cynhwysion
4 darn o afu cyw iar
4 darn o gig moch Sir Gar
2 darn o dost
Dull
Lapiwch yr afu mewn darn o gig moch. Daliwch o yn ei le gyda sgiwer bach pren.
Rhowch yn y popty am 5-10 munud, gan ei droi unwaith.
Torrwch y tost yn 4 rhan a rhoi darn o afu ar bob un.


