Cacennau Bach Pysgod Sir Benfro
gan Hazel Thomas
Cacennau Bach Pysgod Sir Benfro
Cynhwysion
1 nionyn / winwnsyn wedi ei dorri'n fân
450g o bysgod o'ch dewis - er enghraifft cegddu (hake), penfras (cod) a chorbenfras (haddock)
450g o datws Sir Benfro
Ychydig o fasil wedi ei dorri'n fân
Pupur a Halen
Briwsion bara ffres, wy a blawd ar gyfer gorchuddio'r teisennau pysgod
Olew ar gyfer ffrio
Dull
1. Berwch y tatws yn eu crwyn tan eu bod yn feddal, yna hidlwch a gadewch y tats i oeri. Coginiwch y nionod mewn olew tan eu bod yn feddal, ond heb droi lliw. Gadewch y nionod i oeri.
2. Rhowch y pysgod ar blat, ychwanegwch bupur a halen, a wedyn rhowch e yn y popty am 10-15 munud. Gadewch y pysgod i oeri.
3. Pan fydd y tatws yn oer, pasiwch nhw drwy ridyll i'w stwnsho, gan adael y croen yn y rhidyll. Gwnewch yr un fath gyda'r pysgod er mwyn cael gwared ar hylif a chymeryd gofal i gael gwared ar unrhyw esgyrn bach. Cymysgwch y pysgod a'r tatws.
4. Cymysgwch yr holl gynhwysion eraill gydai'i gilydd gyda'r pysgod a'r tatws mewn bowlen. Ychwanegwch halen a phupur os y dymunwch.
5. Siapiwch y cymysgedd i mewn i siap cacennau bach, rhowch ychydig o flawd drostynt a gadewch y cacennau yn yr oergell am tua hanner awr o dan haenen o ffilm plastig.
(Os y dymunwch, rholiwch y cacennau mewn wy ac yna briwsion bara cyn eu coginio fel ffordd wahanol o'u gweini).
6. Cynheswch olew mewn padell a choginiwch y cacennau tan eu bod yn frown ar y ddwy ochr ac wedi cynhesu i'r canol. Gweinwch efo salad gwyrdd ac ychydig o saws tartar cartref.
Tips coginio Blas
Pan ydych yn gwneud eich eisin eich hun, ychwanegwch ychydig o finegr i'r gymysgedd. Bydd hyn yn atal yr eisin rhag cracio pan mae'n sychu ar y gacen


