Advertisement

Blas

Cannelloni pupur coch a chaws gafr Cymreig

Cynhwysion

  • 4 haenen o basta lasagne ffres wedi'u rhoi mewn dŵr berw am 5 munud
  • 2 bupur coch wedi eu torri'n stripiau
  • 300g o gaws gafr Cymreig wedi ei giwbio
  • 200g o gaws Llŷn (Cheddar o Gaernarfon) wedi ei gratio
  • Dyrnaid o ddail basil
  • Croen hanner lemwn
  • Halen
  • Pupur du

Y saws

  • 50g o fenyn di-halen
  • 1 winwnsyn wedi ei dorri'n fân
  • 2 glof o arlleg wedi ei dorri'n fân
  • 10 tomato ffres wedi eu ciwbio, heb yr hadau
  • 1 llwy fwrdd o puree tomato
  • 1 gwydriad o win gwyn Chardonnay
  • Sudd hanner lemwn
  • 2 lwy fwrdd o gaws Mascarpone
  • Halen a phupur du

Dull

Rhoi'r pasta ar y bwrdd a rhoi darn o ddeilen basil a chroen lemwn ar bob darn.

Rhoi haenen o bupur coch o un pen i'r llall, cyn rhoi darnau o gaws gafr Cymreig ar ei ben.

Ychwanegu ychydig o halen a phupur a'i rowlio'n dynn i greu parsel.
Yna rhowch y parseli i gyd mewn dysgl yn barod ar gyfer y saws.
Nesaf, gwnewch y saws...

Toddi'r menyn a ffrio'r winwns a'r garlleg nes eu bod yn feddal, yna ychwanegu'r puree tomato a'i goginio am 2-3 munud.

Ychwanegu'r tomatos, pinsied o halen a phupur a'u coginio am 10 munud. Yna, ychwanegu'r gwin a'r sudd lemwn a mudferwi'r cyfan ar wres isel am 45 munud. Cymysgu'r Mascarpone i'r saws yn ystod 10 munud olaf y coginio.

Pan fydd y saws wedi oeri ychydig, chwyrlïo'r cyfan nes ei fod yn llyfn ac yna tywallt y saws dros y parseli. Rhowch y caws llyfn dros y cyfan ac yna'i goginio yn y popty am tua 30 munud ar dymheredd o 220 gradd Celsius. Gallwch ei weini gyda salad syml neu fara garlleg.

Tips coginio Blas

I gadw llaeth yn ffres am fwy o amser, rhowch binshed o halen yn y llaeth pan yn agor y botel am y tro cyntaf

Amserlen

Ar yr awyr nawr

17:00 Post Prynhawn

Y newyddion diweddara o Gymru a'r byd.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.