Cliciwch yma i weld manylion CDs newydd...
Siart C2 yw'r siart roc, pop a dawns sy'n canolbwyntio ar gerddoriaeth newydd, gyfoes ac yn adlewyrchu holl fywyd y sîn gerddoriaeth Gymraeg.
Gwrandewch ar Siart C2 bob nos Lun ar C2 ar Radio Cymru rhwng 8 a 10pm gyda Magi Dodd.
Mae Siart C2 yn seiliedig yn bennaf ar werthiant recordiau mewn siopau drwy Gymru. Mae hi hefyd yn ystyried ymddangosiadau ar y teledu a radio, a gigs yr wythnos.
Siart C2 - y Ffeithiau!
Y Rhif 1 cyntaf erioed yn Siart C2 oedd MC Mabon ar Ragfyr 2il, 2002.
Y grwp hiraf i aros yn Rhif 1 Siart C2 ydy Elin Fflur a'r Moniars oedd yna am 11 wythnos.
Mae Meic Stevens wedi llwyddo i aros yn y deg uchaf am 52 wythnos yn olynol, ond mae Meinir Gwilym wedi llwyddo i aros yn y pump uchaf am dros 52 wythnos.
Fe arhosodd Cerys Matthews yn Rif 1 Siart C2 am 9 wythnos, Meinir Gwilym am 8 wythnos, a Gruff Rhys am 8 wythnos.
Dyma'r artistiaid oedd yn Rhif 1 yn Siartiau'r Flwyddyn:
- 2008 - Gwibdaith Hen Frân
- 2007 - Frizbee
- 2006 - Frizbee
- 2005 - Bryn Fôn
- 2004 - Elin Fflur
- 2003 - Meinir Gwilym
Dyma'r artistiad sydd wedi bod yn Rhif 1 y Nadolig:
- 2008 - Brigyn
- 2007 - Bryn Fôn
- 2006 - Mim Twm Llai
- 2005 - Meinir Gwilym
- 2004 - Bryn Fôn
- 2003 - Meinir Gwilym
- 2002 - Elin Fflur a'r Moniars
CDs 2008
Dyma restr o CDs gafodd eu rhyddhau yn 2008.
CDs 2007
Dyma restr o CDs gafodd eu rhyddhau yn 2007.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Siart C2
07 Rhagfyr 2009
- 1 Fflur Dafydd a'r Barf
- 2 Brigyn
- 3 Cerys Matthews
- 4 Derwyddon Dr Gonzo
- 5 Bryn Fon
- 6 Elin Fflur
- 7 Gwibdaith Hen Fran
- 8 DJ SG
- 9 Meinir Gwilym
- 10 Sibrydion

