Sesiwn arbennig gan Heather Jones, enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau RAP 2009.
Ers ei dyddiau hefo Bara Menyn, mae Heather wedi bod yn un o leisiau mwyaf adnabyddus ac unigryw'r sin. Yma mae'n perfformio 'Un Rhosyn Coch' fel rhan o sesiwn acwstig arbennig ar gyfer noson Wobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru.
Bydd dwy gân arall o'r sesiwn i'w chlywed yn ystod y rhaglen ar nos Wener Ebrill 3ydd, neu yma ar wefan C2 wedyn.
Bu Heather hefyd yn sgwrsio gyda Lisa Gwilym gan rannu rhai o'i hatgofion, ac yn rhoi ei ymateb i dderbyn y wobr. Gwyliwch y fideo.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

