Llawenydd Heb Ddiwedd....

Y Cyrff

Y Cyrff

Y Cyrff. Mark, Paul, Barry, Dylan - a wedyn Mark arall. Mae'r Gwyddoniadur ar-lein Wicipedia yn eu disgrifio fel "band poblogaidd yn yr 80'au. Maen nhw'n dod o Lanrwst, Sir Conwy. Mae eu canu yn bobogaidd yng Nghymru, Lloegr a Llanrwst." Dyw Wicipedia ddim yn dweud mai dyma un o fandiau mwya' dylanwadol ac arloesol Cymru - felly newn ni ddweud hynny drostyn nhw.

Ffurfiwyd Y Cyrff nol ar ddechrau'r 80au ac ym mis Medi eleni, am y tro cyntaf erioed, mi fydd casgliad cyflawn o waith y grwp yn cael ei ryddhau. Atalnod Llawn yw enw'r box-set 4 cryno ddisg ac mae'n cynnwys caneuon Y Cyrff rhwng 1983 a 1992.

I gyd-fynd â rhyddhau'r casgliad unigryw yma mi fydd 'Taith Cymru, Lloegr a Llanrwst' yn mynd â chaneuon bythgofiadwy'r band i'r tri lleoliad yma - sef Cymru, Lloegr a Llanrwst (duh!). Mi fydd Alun Tan Lan, Kentucky AFC, Maharishi, Dan Amor, a Jen Jeniro yn chwarae nifer o glasuron Y Cyrff yn ogystal ag ambell i berl llai adnabyddus.

Dyma leoliadau a dyddiadau'r daith:

Cymru
Nos Sadwrn, Medi 24ain - Clwb Ifor Bach, Caerdydd

Lloegr
Nos Fawrth, Medi 27ain - Lefel 5, Marquee Club, Llundain

Llanrwst
Nos Iau, Medi 29ain - Clwb Legion, Llanrwst

Am fwy o fanylion ewch i RASAL neu ffoniwch (01286) 831111

Mi fydd Mark a Paul o'r band yn ymweld â stiwdios moethus C2 ar nos Fercher Fedi 21ain i siarad gyda Huw Stephens am Y Cyrff, Atalnod Llawn, y daith - a Manchester United (mwy na thebyg). Os ych chi am ofyn cwestiwn i'r ddau anghenfil roc ebostiwch - c2@bbc.co.uk

Cliciwch yma i gael manylion holl CDs newydd yr hydref.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.