Newyddion Trist i'r Sin Roc yng Nghymru.
Yn ystod yr oriau diwethaf, cyhoeddwyd fod y gitarydd Tich Gwilym wedi cael ei ladd mewn tân yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Fore Sul, ychydig cyn 0800, mi gafodd diffoddwyr tân eu galw i Deras Westbury yn Nhreganna, Caerdydd. Dywedodd gwasanaeth tân y De fod corff Mr Gwilym wedi ei ddarganfod mewn llofft ar ail lawr yr adeilad.
Roedd Tich Gwilym, 55 oed yn aelod o'r Cynghaneddwyr gyda Geraint Jarman, ac roedd y gitarydd o Benygraig, Rhondda yn enwog am ei ddehongliad unigryw o'r anthem genedlaethol.
Mae Tich yn cael ei gydnabod gan lawer fel gitarydd mwyaf cyffrous ei gyfnod yng Nghymru a thu hwnt, a mi fydd y golled yn un enfawr.
Nos Lun ar C2 fe wnaeth Geraint Jarman, Sion Jones (Maffia), Owen Powell (Crumblowers a Catatonia) a Sian James ymuno efo Huw Stephens i dalu teyrnged i Tich, pan fuon nhw'n hel atgofion am ei berfformiadau byw yn ogystal a'i gyfraniad arbennig i'r sin roc yng Nghymru. I glywed y cyfraniadau arbennig yma, cliciwch yma.
Mae yna lyfr teyrngedau arbennig wedi agor ar safle BBC Cymru'r Byd, os hoffech chi dalu teyrnged i Tich yna cliciwch yma.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

