Be fydd ar eich Stereo yn 2006?

Clinigol

Guto Brychan (Trefnydd Maes B)

  • Radio Luxembourg
    Yn dilyn rhyddhau eu sengl gyntaf Pŵer y Fflwer/Lisa Magic a Porva ddiwedd 2005, mae eleni yn argoeli i fod yn flwyddyn fawr iddyn nhw. Gobeithio y bydden nhw'n gigio mwy yn ystod 2006.
  • Genod Droog
    Dyma brosiect newydd Dyl Mei, Geth Evans (Kentucky AFC) a Ed Holden gynt o Pep Le Pew. Mi oedd eu gig cyntaf nhw yng Nghlwb Rheilffordd, Bangor fis Rhagfyr y llynedd, ac mi oedden nhw'n fand oedd yn amlwg yn mwynhau eu hunain ar y llwyfan, band parti da! Mi fydd Genod Droog yn mynd ar daith 'TEW' ddiwedd Ionawr/dechrau Chwefror o amgylch Cymru.
  • Briwsion
    Dyma fand Gwion gynt o Murry The Hump a The Keys. Dim ond ychydig o gigs wnaethon nhw yn 2005, ond band byw da iawn. Edrych ymlaen i glywed mwy ganddyn nhw yn ystod y flwyddyn.

Ian Cottrell (Cyflwynydd a DJ)

  • We Are Scientists
    Band o America wnaeth ryddhau cwpl o senglau yn 2005, mi aeth eu sengl The Great Escape i fewn i'r 40 uchaf fis Hydref y llynedd. Os ydach chi'n hoffi'r Killers, mi fyddwch chi'n siwr o fwynhau cerddoriaeth We Are Scientists. Bydd eu sengl nesaf It's a Hit allan yn fuan.
  • Panic! At the Disco
    Mi ddaeth Ian ar draws y band yma ar wefan purevolume.com. Mae cerddoriaeth y grwp ifanc o Las Vegas yn debyg iawn i gerddoriaeth y grwp o'r Bontfaen The Automatic. Mi fydd Panic! At the Disco yn perfformio ym Mryste yn hwyrach yn y flwyddyn.
  • Tangwystl
    Grwp ifanc o ardal Gaerfyrddin wnaeth berfformio ar daith C2/Bandit llynedd. Band sy'n llawn agwedd efo prifleisydd carismatig. Mae Tangwystl yn atgoffa Ian o Texas Radio Band ifanc.

Esyllt Williams (Rheolwr label Ciwdod)

  • Clinigol
    Gobaith Esyllt ydi cael gweithio efo Clinigol yn ystod 2006, gan eu bod nhw'n fand cyffrous ac arbrofol iawn. Mae'n braf cael clywed cerddoriaeth electropop Cymraeg, a mae sŵn Clinigol yn debyg iawn i sŵn Goldfrapp, gyda artistiaid gwahanol yn perfformio ar bob trac.
  • Dyl Bili
    Ar ôl gweld set byw gan y DJ Dyl Bili a'i fand yn Miri Madog y llynedd, mae Esyllt yn edrych ymlaen i glywed stwff newydd ganddo yn 2006.
  • Swci Boscawen
    Mae'n braf cael tipyn o glamour yn y sin roc, a dyna'n union 'da chi'n ei gael gan Swci. Edrych ymlaen i glywed mwy ganddi hi a'i band eleni. Albym newydd efallai?
  • Steffan Cravos a Geraint Francon
    Mae Esyllt wedi clywed si fod Steffan (Sleifar) a Geraint (Stab Master Vinyl) wedi dechrau gweithio ar stwff newydd gyda'i gilydd. Os yw hyn yn wir, mi fyddwn ni'n edrych ymlaen i chwarae eu caneuon newydd ar C2 yn y dyfodol.
  • Wyrligigs
    Band newydd ifanc arall o'r gogledd, wnaeth berfformio yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd yn ddiweddar, a chael ymateb da iawn. Mi fydd sengl gyntaf y band allan ar label Ciwdod fis Mawrth.

Dyl Mei (Cynhyrchydd)

  • Derwyddon Dr Gonzo
    Band newydd ifanc o Wynedd, wnaeth enillydd Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Eryri y llynedd. Mi fydd sesiwn gan y band i'w glywed ar C2 yn fuan.
  • Llan Clan
    Dyma'r band diweddara i ddod o Flaenau Ffestiniog. Ymddangosodd un o'u caneuon ar CD aml-gyfrannog Gwallgofiaid yn ystod 2005.
  • Plant Duw
    Plant Duw oedd enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B 2005, band arbennig o dda yn fyw yn ôl Dyl Mei, mae'n edrych ymlaen i glywed y sesiwn ma' nhw wedi ei recordio ar gyfer C2.
  • Jen Jeniro
    Grwp ifanc o ardal Llanrwst gafodd y cyfle i berfformio ar daith deyrnged i'r Cyrff, sef Cymru, Lloegr a Llanrwst flwyddyn diwethaf. Gobeithio y byddan nhw'n gigio mwy yn ystod 2006.
  • Mr Phormula
    Dyma brosiect Ed Holden, oedd arfer bod yn Pep Le Pew efo Dyl Mei. Edrychwn ymlaen i glywed albym cyntaf Mr Phormula fydd allan yn hwyrach eleni.

Am fwy o fanylion am CD's newydd cliciwch yma.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.